top of page

Croeso i Clinig Croen, lle rydym yn arbenigo mewn triniaethau laser ar gyfer y croen. Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau ar gyfer adnewyddu, a gwella edrychiad eich croen. Gyda'n staff proffesiynol a hyfforddedig a'r technolegau diweddaraf, rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r canlyniadau gorau i'n cleientiaid. Mae croeso i chi ymweld â ni am ymgynghoriad rhad ac am ddim i ddatblygu cynllun triniaeth wedi'i deilwra i'ch anghenion.

Mae'n rhaid bod yn 18 oed + i dderbyn mwyafrif o driniaethau yma yn Lolfa Lois. Mae'n bosib cael ambell driniaeth o dan yr oedran hwn gyda chaniatâd rhiant / gwarchodwr. Cysylltwch am fwy o wybodaeth. 

CLINIG CROEN - WATERMARK-06.png

Laser/ILP

1.png
5.png
laser treatment on leg

Tynnu blew

Yr IPL Advanced Excelight yw’r peiriant safon aur orau i ddileu neu leihau blew di-angen ar unrhyw ran o’r corff.

male having laser treatment

Pigmentiad

Gellir cael gwared â briwiau pigmentog, fel smotiau haul, smotiau oedran a brychni haul, sy'n arwydd o niwed i’r croen gan yr haul.  

female having laser treatment

Acne

Ymladd yn erbyn llid a lleihau ei ddifrifoldeb a pha mor aml mae’n torri allan, a hefyd lleihau cochni a phigmentiad.

pigmentation on skin

IPL adfywio'r croen

Datrys pob arwydd gweledol o heneiddio a achoswyd gan yr haul, yn cynnwys smotiau tywyll, pigmentiad, cochni, gwythiennau mân, gwead croen anwastad, llinellau a chrychau.

facial blood vessel treatment

Gwythiennau

Gallwn ddarparu datrusiad tymor hir i bryderon wynebol fel rhannau gwritgoch (Rosacea), gwythiennau bychain a smotiau coch.

illumifacial treatment

Gloywi'r wyneb

illumiFacial® i wella eich ffilter naturiol, arlliw ac ymddangosiad eich croen a helpu’ch croen i edrych a theimlo ar ei orau tra'n defnyddio technoleg flaengar byd-eang.

dermalux treatment

Dermalux®

Dyma driniaeth hanfodol i’r rhai hoffai gael croen gyda gwedd iach a chlir. Gellir ei hychwanegu at unrhyw apwyntiad arall a gellir ei theilwra'n effeithiol i'ch anghenion penodol chi.
 


 

Lois yn rhoi'r driniaeth EPN PEN i gwsmer

EPN Pen

Mae triniaeth EPN Pen Lynton yn cynnig cyfuniad unigryw o’r triniaethau Microneedling ac Electroporation diweddaraf sydd wedi’u profi’n glinigol. Goleuo a bywiogi'r croen wrth leihau'r arwyddion cyffredin o heneiddio a gwella pryderon croen amrywiol fel creithio acne, mandyllau agored (open pores), pigmentiad a niwed gan yr haul a marciau ymestyn.

3AD1D6A1-CFF8-455E-982F-348DB9F52869_L0_001-10_29_2023, 1_28_50 PM.jpg

Tynnu Tatŵ

Yma yn Lois Lolfa, rydym yn cynnig triniaeth cael gwared o datŵ yn defnyddio laser - mae’r canlyniadau’n wych! Mae'r dechnoleg flaengar hon gan gwmni Asclepion yn gweithio trwy ganiatáu i'r golau a gynhyrchir gan y laser basio trwy'r croen a chwalu inc y tatŵ yn ronynnau man, a hynny heb losgi na niweidio haen uchaf y croen.

Image of a towel, lotion, flower and candle by Camille Brodard

Cyn ac ôl-ofal

Pa bynnag driniaeth a ddewiswch, darllenwch ein hawgrymiadau ar ofal cyn ac ar ôl er mwyn i chi gael y profiad gorau posibl.

 

 


 

Trefnu eich triniaeth

Cymerwch gipolwg ar ein rhestr brisiau a dewiswch ddyddiad ac amser sy'n addas i chi i archebu eich triniaeth.

Logo Lynton
HIW-logo.jpg
Unrhyw gwestiynau?
Cysylltwch!
Y Ffor, Pwllheli, Gwynedd LL53 6UE, UK
  • Grey Instagram Icon
  • Grey Facebook Icon

©LOLFA LOIS
©CLINIG CROEN

bottom of page