top of page

Polisïau

POLISI CANSLO APWYNTIADAU
 

Cedwir eich apwyntiad yn arbennig i chi ac, er ein bod yn deall bod angen addasu amserlenni weithiau, gofynnwn yn garedig am o leiaf 48 awr o rybudd ar gyfer cansladau.
 

Nodwch, os gwelwch yn dda, pan fyddwch yn anghofio neu'n canslo eich apwyntiad heb roi digon o rybudd, rydym yn colli'r cyfle i lenwi cyfnod yr apwyntiad hwnnw, ac mae cleientiaid ar ein rhestr aros yn colli'r cyfle i dderbyn gwasanaethau.
 

Byddwn yn cadarnhau eich apwyntiad drwy neges destun neu e-bost 48 awr ymlaen llaw oherwydd gwyddom pa mor hawdd yw anghofio apwyntiad y gwnaethoch chi ei archebu fisoedd yn ôl.
 

 

Ffioedd canslo

Gan fod y gwasanaethau wedi'u cadw yn benodol ar eich cyfer, bydd ffi canslo yn berthnasol os byddwch yn methu â rhoi o leiaf 24 awr o rybudd na fyddwch yn gallu cadw eich apwyntiad.

  • Bydd llai na 24 awr o rybudd yn arwain at godi tâl sy'n hafal i 50% o bris y gwasanaeth a archebwyd oni bai eich bod yn gallu newid yr apwyntiad ar y system archebu ar-lein eich hun hyd at 6 awr cyn yr apwyntiad a wnaed yn wreiddiol.

  • Byddwn yn codi tâl llawn (100%) am y gwasanaeth a archebwyd pan nad yw cleient yn troi fyny i'r apwyntiad.

  • O ran apwyntiadau a wneir o fewn y cyfnod o 24 awr, os na ellwch gadw’r apwyntiad, gofynnir i chi ganslo o fewn 6 awr i amser yr apwyntiad. Bydd peidio â gwneud hyn yn arwain at godi tâl sy’n cyfateb i 50% o gost y gwasanaeth a archebwyd.
     

 

Mae'r polisi canslo yn rhoi'r amser i ni roi gwybod i’n cwsmeriaid wrth gefn am unrhyw amseroedd sydd ar gael ac yn cadw fy amserlen yn llawn. Fy nod yw darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf ac mae fy mholisïau yn fy helpu i gyflawni hyn.
 

Diolch am gefnogi a pharchu fy mholisïau.

bottom of page