top of page

Amdanom ni

Croeso...

Busnes estheteg a harddwch ydy Lolfa Lois. Rydym ni’n arbenigo mewn colur aeliau  lled-barhaol (SMPU); System Excelight IPL gan Lynton Laser  sydd wedi ennill sawl gwobr i drin amrywiaeth o gyflyrau croen fel pigmentiaid, triniaeth fasciwlar ar wyneb a di-flewio ac wrth gwrs amrywiaeth eang o driniaethau harddwch fel arliwio/tintio, wacsio, amrannau LVL neu ychwanegu trwch a choluro. 

 

Rwyf wedi cymhwyso ac yswirio’n llawn yn yr holl wasanaethau sy’n cael eu cynnig ac yn meddu ar gymhwyster mewn harddwch.  Rwyf wedi fy nhrwyddedu gan Wasanaeth Iechyd yr Amgylchedd y cyngor lleol a hefyd Arolygaeth Iechyd Cymru (HIW).
 

Yma, cewch groeso cynnes mewn awyrgylch foethus braf. Mae amryw un yn fy nisgrifio fel perffeithydd yn fy ngwaith, gydag amser ac amynedd i sicrhau fy mod yn cyrraedd anghenion yr unigolyn.  Mae gen i wir ddiddordeb yn strwythur a gwyddoniaeth y corff, ac felly rwyf yn cynnig triniaethau amrywiol o’r safon uchaf.
 

Rwyf wedi ymddiddori mewn croen a harddwch ers pan yn hogan fach. Blynyddoedd wedyn graddiais o’r Brifysgol gyda BA (anrhydedd) mewn Addysg a mynd yn athrawes ysgol gynradd am dros ddeg mlynedd. Sylweddolais yn y blynyddoedd olaf yn y byd addysg fy mod yn dal ag angerdd tuag at waith creadigol, a ‘mod i’n mwynhau helpu a gwneud i bobl deimlo’n hyderus a hapus amdanyn nhw eu hunain.
 

Diolch i gefnogaeth a chwsmeriaeth pobl fy milltir sgwâr a thu hwnt, mae’r busnes yn ffynnu.

Lois x

Image of Lois, owner of Lolfa Lois

Gwasanaethau eraill yn Lolfa Lois

Yn Lolfa Lois, mae modd cael mwy na thriniaethau estheteg a harddwch! Cymerwch gipolwg ar y busnesau lleol eraill sydd yn gweithio o'r adeilad.

bottom of page