
Colur Parhaol
Colur parhaol (PMU) neu micropigmentiad yw’r dull chwyldroadol o fewnosod pigmentau mwynau hypoalergenig i haen dermol y croen. Naturiol, meddal, neu ddwys: i gyd yn bosibl gyda micro-pigmentiad, does dim ots pa fath o groen. Mae micro pigmentiad yn cael ei wneud gan ddefnyddio dyfais ddigidol goeth.
Mae'r pigment yn treiddio i'r croen yn effeithlon, sy'n gwneud i'r pigment bara'n hirach.
Mae colur parhaol yn caniatau i chi roi nodweddion siâp a diffiniad i wella harddwch naturiol mewn dynion a merched. Yn ogystal â chynyddu hunanhyder, gall micropigmentiad arwain at arbed tipyn o amser wrth goluro.
Yn ychwanegol, mae’r triniaethau yn creu effaith drawiadol a fydd yn para am sawl bwyddyn. Mae PMU yn arbennig o addas ar gyfer pobl sydd ag alergeddau i golur cyffredin /arferol , rhai sy’n gwisgo lensys llygad neu bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd.
Mae'n rhaid bod yn 18 oed + i dderbyn mwyafrif o driniaethau yma yn Lolfa Lois. Mae'n bosib cael ambell driniaeth o dan yr oedran hwn gyda chaniatâd rhiant / gwarchodwr. Cysylltwch am fwy o wybodaeth.
Prawf croen
Bydd angen prawf croen ar gyfer y rhan fwyaf o’r triniaethau a wneir yn Lolfa Lois o leiaf 48 awr cyn y driniaeth.