top of page

Aeliau - Cwestiynau Cyffredin

Rwyf wedi paratoi cyfres o gwestiynau ac atebion trylwyr isod i roi gwybod i chi beth yw'r driniaeth a’r cwestiynau a ofynnir yn aml.
 

Peidiwch ag anghofio bod aeliau perffaith yn fath o gelfyddyd. Rwy'n angerddol am fy ngwaith a gallaf greu'r aeliau 3-d mwyaf naturiol y gallech ofyn amdano.
 

Y peth gorau am Microblading yw - efallai fod gennych aeliau trwchus, hynod wan, neu hyd yn oed wedi colli’ch aeliau, ond gallaf ddal i greu aeliau sy’n edrych yn naturiol llawn drwy ddefnyddio llafnau gwahanol a sawl arlliw sy'n cyfateb i liw eich gwallt. Fellly, bydd eich aeliau'n edrych yn aml-ddimensiwn ac yn real.

Beth yw Microblading?

Mae Microblading yn ddull darparu â llaw gosmetigau parhaol ar gyfer eich aeliau sy'n creu strociau o flew mân, naturiol yr olwg. Y canlyniadau? Aeliau llawn sy'n edrych yn gwbl naturiol, yn drwchus ac yn llawn (yn dibynnu ar eich gofynion chi, wrth gwrs).

2

Beth yw Nano?

Yn debyg iawn i’r Microblading, rwyf yn creu strociau o flew mân, ond y tro hwn yn defnyddio peiriant ac mae’n treiddio’n ddyfnach i mewn i’r croen. Gallwn liwio i mewn neu ‘shadio’ yn ysgafn y bylchau - mae’r posibiliadau gyda’r peiriant yn ddiddiwedd.

3

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y ddwy driniaeth?

Mae Nanoblading yn rhoi edrychiad mwy manwl a chywir. Mae pob strôc yn unigol ac yn deneuach na strôc microblading, felly maent wedi'u hymgorffori'n well yn yr aeliau naturiol a gall yr artist addasu'r ffurf bwa gyda llawer mwy o gywirdeb. Mae Nanoblading hefyd yn edrych yn fwy naturiol ar bobl sydd â blew aeliau tenau.

4

Pa mor hir mae Microblading yn para?

Mae dau gam i'r driniaeth Microblading.
 

Y cam cyntaf fydd mapio a gwneud yr holl strociau sydd eu hangen arnom i siapio'r aeliau i'w cael i edrych yn llawnach (ac yn drwchus mewn rhai achosion). Yna 6-8 wythnos yn ddiweddarach, apwyntiad arall i fynd dros y gwaith a llenwi unrhyw fylchau a cholli lliw. Yna, yn dibynnu ar y math o groen a’ch gofal ohono bydd y pigment yn pylu'n araf dros 18-24 mis.
 

Mae canlyniadau Nano yn para o 2 i 3 mlynedd ar gyfartaledd, yn dibynnu ar y math o groen a ffordd o fyw. Fodd bynnag, mae Nanoblading yn fwy addas ar gyfer croen olewog ac mae'n fwy gwydn i olew gormodol a gynhyrchir o fewn y croendyllau.  Yn yr un modd, mae hefyd yn fwy addas na Microblading ar gyfer croen gyda chroendyllau mawr.

5

A ydy Microblading/Nano yn boenus?

Gall y gwasanaeth fod ychydig yn anghyfforddus i'r rhai sy'n fwy sensitif. Fodd bynnag, mae anaesthetig yn cael ei ddefnyddio cyn ac yn ystod triniaeth i gadw hyn ar lefel lle mae’n gwbl oddefadwy.

6

Sut mae'n gweithio?

Mae'r pigment yn cael ei osod gyda theclyn arbennig sydd â rhes o nodwyddau cain i greu marciau tenau tebyg i flew yn y croen. Byddaf yn dewis nodwyddau a'r math o lafn yn ôl y dechneg a'r math o groen. Mae'r pigment wedi'i osod ychydig o dan yr epidermis a'r rhan fwyaf bas o'r dermis, gan wneud strociau blew naturiol iawn. Ceir canlyniad naturiol iawn, wrth i'r blew gael eu gweithio i'r croen yn ôl cyfeiriad twf naturiol y blew. Mae sesiwn caboli/cyffyrddiadau terfynol wedi'i gynnwys 4-6 wythnos ar ôl eich triniaeth gychwynnol.

Mae Nanoblading yn fersiwn mwy manwl o Microblading. Ar gyfer Nano, mae'r artist yn defnyddio dyfais un nodwydd, y peiriant nodwydd Nano, sy'n gweithio fel peiriant tatŵs, ond sy'n defnyddio nodwydd fain iawn i chwistrellu pigmentau i'r epidermis.

Mae'r nodwydd nano yn hyblyg ac mor denau â blewyn. Y trwch mwyaf cyffredin yw 0.18 mm. Mae rhai artistiaid yn ei alw'n aeliau Nano 3D, oherwydd mae'r strociau tenau yn anwahanadwy o'r gwallt naturiol.

7

Am ba hyd y mae'r gwasanaeth yn para?

Dylai'r apwyntiad gymryd tua dwy awr a hanner.

8

A oes unrhyw amodau sy'n bodoli eisoes sy'n ymyrryd ag ystyriaeth ar gyfer triniaeth Microblading?

  • Beichiogrwydd

  • Bwydo ar y fron (mae triniaeth yn bosibl, er na fydd anaesthetig yn bosibl)

  • Ar keloids neu os oes gennych duedd i keloid, marciau geni neu fannau geni.

  • Diabetig.

  • Clefydau difrifol fel canser, epilepsi, anhwylderau hunan imiwn (mae angen nodyn meddyg)

  • Anhwylderau cylchrediad y gwaed (mae angen nodyn meddyg)

  • Unrhyw anhwylderau gwaedu (mae angen nodyn meddyg)

  • Rydych chi'n cymryd meddyginiaeth teneuo gwaed

  • Ar hyn o bryd ar Accutane neu retinoidau cryf eraill (rhaid aros am 6 mis ar ôl i'r driniaeth ddod i ben)

  • Os bydd unrhyw symptomau clefydau croen neu gosi poenus yn ymddangos ar yr ardal.

  • Rydych wedi cael triniaeth Botox neu Disport yn ddiweddar (rhaid aros 2 fis)

  • Dros 55 oed (Nano yn unig)

  • Mae gennych gapilari wedi torri yn ardal yr aeliau

  • Os oes gennych losg haul.

  • Ar ôl wacsio (rhaid aros 3 diwrnod)

  • Ar ôl piliadau cemegol (rhaid aros pythefnos)

9

A oes unrhyw beth y mae angen i mi ei wneud i baratoi ar gyfer fy apwyntiad?

  • Peidiwch ag yfed coffi, alcohol na diodydd ysgogi ar ddiwrnod y driniaeth.

  • Peidiwch â chymryd Aspirin, Niacin, Fitamin E neu Ibuprofen  24 awr cyn y driniaeth.

  • Peidiwch â chymryd omega3 (olew pysgod) 1 wythnos cyn y driniaeth.

  • Peidiwch â chael /rhoi lliw haul na mynd i wres tanbaid yr haul 3 diwrnod cyn y driniaeth.

  • Dim wacsio 2-3 diwrnod cyn y driniaeth.

  • Dim piliadau cemegol, sgriffiadau ar y croen, laser nac unrhyw driniaethau dwys eraill bythefnos cyn y driniaeth

  • Cawod a thrin eich gwallt gan fod angen i chi gymryd gofal ychwanegol i beidio â gwlychu eich aeliau am sawl diwrnod.

10

Beth alla i ei ddisgwyl yn ystod fy apwyntiad?

Dyma grynodeb o wasanaeth nodweddiadol a ddarperir gan Lolfa Lois.
 

  • Yn gyntaf, bydd angen i mi wneud prawf ar y croen o leiaf 24 awr cyn y driniaeth.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn ffonio ac yn archebu ymgynghoriad 15- munud cyn hynny hefyd!

  • Cyn i'r apwyntiad ddechrau, byddaf yn darparu ymgynghoriad cyflym i drafod disgwyliadau a chanlyniadau'r driniaeth. Yn bwysicaf oll, i ateb unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r driniaeth.

  • Pan fydd pawb yn hapus a'r anaesthetig yn gwneud ei waith, byddaf yn mesur rhannau o'r wyneb ac yn tynnu llun trylwyr ar siâp eich aeliau - wedi'i fesur yn berffaith i ategu eich siâp a maint eich wyneb.

  • Nesaf, rwy'n dewis lliw pigment perffaith yn dibynnu ar arlliw eich croen, lliw gwallt - byddaf wedyn yn cymysgu'r pigmentau ac yn brwsio'r lliw ychydig islaw’r gwallt i chi ei weld a'i wirio cyn i ni ddechrau.

  • Gosodir strôc gychwynnol, yna defnyddir mwy o anaesthetig, os oes angen, i leihau unrhyw anghysur.

  • Mae pigment yn cael ei weithio i mewn i bob strôc i ddiffinio'r ael

  • Ar ôl hynny, gadewir masg o bigment i amsugno i'r croen.

  • Byddwn yn ailadrodd 5, 6 a 7 ychydig o weithiau i greu'r aeliau perffaith yr ydych wedi bod yn gobeithio amdanyn nhw!

  • Unwaith y bydd hynny wedi’i orffen, bydd yr artist yn glanhau'r ardal yn drylwyr.

  • Ar ôl y driniaeth byddaf yn egluro’r camau ôl-ofal a chewch becyn ôl-ofal am ddim i fynd adref gyda chi, sy'n cynnwys cynllun ôl-ofal pwysig, eli (hufen lleithio /moisturising balm) a'ch cerdyn apwyntiad nesaf.

11

A oes unrhyw ofal ar ôl y driniaeth?

Oes, yn wir! Gwnewch yn siŵr eich bod yn osgoi POB un o'r canlynol:

  • Chwysu’n ormodol, ymarfer chwaraeon, nofio, sawna poeth, baddon poeth neu jacuzzi, torheulo neu gael lliw haul mewn salon.

  • Unrhyw driniaethau laser neu gemegol neu biliadau, a/neu unrhyw eli sy'n cynnwys Retina neu Glycol Acid ar yr wyneb neu'r gwddf.

  • Plicio neu grafu'r ardal microblading er mwyn osgoi creithio'r ardal neu dynnu'r pigment.

  • Cyflawni tasgau trwm sy'n gysylltiedig â glanhau’r cartref fel glanhau garej neu islawr lle mae llawer o sbwriel a llwch yn yr aer.

  • Yfed alcohol yn ormodol gan y gallai hynny arwain at arafu gwellhad y clwyfau.

  • Gyrru mewn cerbydau agored fel car â tho agored, cychod, beiciau neu motobeics.

  • Cyffwrdd ag ardal yr aeliau  ac eithrio wrth rinsio a defnyddio'r hufen ôl-ofal gyda swab cotwm.

  • Cyn cawod, rhowch haen o hufen ôl-ofal i ddiogelu eich aeliau rhag lleithder. Yn ystod y gawod cadwch eich wyneb i ffwrdd o ben y gawod. Gall cosi a fflawio ymddangos yn ystod y saith diwrnod cyntaf ar ôl y driniaeth Microblading. Fodd bynnag, mae profiad wedi dangos y gallai'r symptomau hyn ddiflannu'n gyflym drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ôl-ofal hyn.

  • Unwaith y byddant wedi'u gwella'n llwyr, dylech bob amser ddefnyddio haen o eli haul SPF 30 ar eich aeliau pan fyddant yn agored i'r haul. Gallai amlygiad i'r haul achosi i'r pigment lliw bylu’n gyflymach.

12

Beth sy'n digwydd yn ystod y sesiwn caboli/cyffyrddiadau terfynol ?

Argymhellir y sesiwn gaboli/twtio 4-6 wythnos ar ôl y driniaeth gychwynnol.  Yn ystod eich sesiwn, byddaf yn llenwi blew coll, yn ychwanegu neu'n gwneud blew yn hirach neu'n cael lliw tywyllach.

13

Sut beth yw'r broses gwella ar ôl Microblading/Nano?

Bydd eich aeliau newydd yn mynd drwy sawl cam yn ystod y cylch gwella. Dim ond 3-4 wythnos ar ôl y driniaeth y gellir asesu’r gwir liw terfynol. Argymhellir bod y siâp/dyluniad yn cael ei dwtio/caboli a/neu ei gywiro o leiaf 4 wythnos ar ôl y driniaeth gychwynnol. Bydd yn mynd o fod yn rhy dywyll, i rhy olau, i bron yn berffaith!
 

Yn union ar ôl y driniaeth, bydd y pigment yn ymddangos yn siarp ac yn dywyll iawn. Y rheswm am hyn yw bod y pigment yn dal i eistedd ar eich croen ac nad yw wedi setlo’n llwyr eto. Bydd lliw'r pigmentiad yn meddalu'n raddol (peidiwch â dychryn os gwelwch rywfaint o bigment ar y swab cotwm gan mai pigment dros ben yw hwn a/neu hylif corff sy'n gadael eich croen yn naturiol).
 

Unwaith y bydd gwellhad y croen yn dechrau digwydd, bydd yn edrych fel fflawiau dandruff neu groen sych. Gallai hyn roi'r argraff i chi fod y pigment lliw yn pylu'n rhy gyflym. Fodd bynnag, lliw arwynebol a chroen sych yw hwn sy'n cael ei dynnu'n naturiol o'ch aeliau.
 

Yn ystod dyddiau 5-12 y bydd lliwiau eich aeliau fwyaf ysgafn oherwydd bod y lliw yn cael ei amsugno yn haenau dyfnach y croen. Yn nes ymlaen, bydd celloedd y croen yn ei wthio'n ôl i'r haenau uchaf. Unwaith y bydd yr iachâd wedi'i gwblhau, byddwch yn mwynhau pâr o aeliau hardd, newydd, naturiol yr olwg.

Rwy’n gobeithio bod y wybodaeth uchod yn rhoi syniad i chi o beth i’w ddisgwyl cyn/yn ystod ac ar ôl y driniaeth. Rwy’n ymwybodol iawn o ddyletswydd gofal a byddaf yn monitro cynnydd eich aeliau ar hyd y daith.

Byddaf yn gofyn i chi anfon lluniau o’ch aeliau ataf bob 3-4 diwrnod yn ystod y 14 diwrnod cyntaf.

 

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau eraill, mae croeso i chi gysylltu â fi, rwyf yma i'ch helpu i gyflawni eich aeliau perffaith!

Diolch o galon, Lois x

bottom of page