
Y DAIR CHWAER
Dyma gyflwyno’r Dair Chwaer! Mae’r driniaeth gemegol (chemical peel) wedi bod o gwmpas ers canrifoedd, a dal yn boblogaidd iawn. Erbyn hyn, mae’r driniaeth yw un o'r triniaethau mwyaf adnabyddus ar gyfer croen iachach sy'n edrych yn well - maen gweithio drwy gael gwared ar gelloedd marw a helpu rhai newydd i dyfu yn eu lle.
​
GWEN - Pure - Ar gyfer croen sensitif, llidus neu wedi chwyddo (e.e. croen tueddol i acne)
HEULWEN - Glow - Ar gyfer hyperpigmentation, smotiau henaint a chroen dwl, blinedig
BLODEUWEDD - Refresh - Ar gyfer llinellau mân, crychau, cadernid a lleithder​​
Triniaeth Gemegol CLINICCARE
Mae driniaeth gemegol gan CLINICCARE yn driniaeth groen broffesiynol, gradd feddygol sydd wedi'i chynllunio i sgwrio haenau uchaf y croen yn dyner, gan ysgogi adfywiad a rhyddhau celloedd ffres ac iach. Mae'r driniaeth yn gwella lliw, gwead a disgleirdeb y croen yn effeithiol, tra'n mynd i'r afael â phryderon fel pigmentiad, acne ac arwyddion heneiddio.
Mae wedi'i deilwra i'ch math o groen a'ch pryderon chi, gan sicrhau profiad diogel a phersonol.
Mae'r driniaeth yn gorffen gyda sesiwn therapi golau LED adfywiol, sydd wedi'i gynllunio i wella adnewyddiad y croen, ysgogi cynhyrchiant colagen ac elastin, a gadael eich croen yn teimlo'n ffres, yn gadarn ac yn ddisglair.


