Lolfa Lois, Clinig Croen & Lynton
Cyn ac ôl-ofal
Hoffem ni i chi gael y profiad gorau posibl yn Lolfa Lois felly dyma rai o'n hawgrymiadau ar ofal cyn ac ôl-ofal ar gyfer ein holl driniaethau esthetig.
Prawf Croen
Cynhelir Profion Croen (Patch Tests) i bennu paramedrau’r driniaeth ac i farnu sut y gallai eich croen ymateb i driniaeth lawn.
Mae prawf croen yn brawf bach mewn ardal sydd â blew a chroen tebyg i ardal y driniaeth ac yn caniatáu i'r ymarferydd asesu pa mor dda mae'r egni golau yn cael ei amsugno ac a yw'r croen yn ymateb fel y byddai disgwyl iddo wneud.
Nodwch unrhyw gochni neu chwydd a pha mor hir mae'n ei gymryd i leihau yn dilyn y prawf croen, hefyd p'un a yw'r croen yn pothellu neu'n teimlo'n rhy boeth ac am ba hyd.
Cyngor cyn triniaeth
-
Dylai'r ardal sydd i gael ei thrin fod yn rhydd o golur, persawr, diaroglydd ac eli corff neu eli wyneb. Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio chwistrell diarogli cyn y driniaeth.
-
Osgoi cwyro, plycio, hufen tynnu blew a diliwio am fis cyn y triniaethau tynnu blew. Dylid eillio blew cyn y driniaeth ac ni ddylai fod yn fwy na 1mm o ran ei hyd.
-
Ni ddylai fod lliw haul gweithredol na ffug yn yr ardal sydd i gael ei thrin. Ni chaniateir defnyddio gwelyau haul neu amlygiad hir i olau'r haul yn y mis cyn y driniaeth ac mae'n rhaid defnyddio SPF 30 i 50 ar yr ardal rhwng triniaethau. Bydd rhaid sicrhau bod lliw haul ffug wedi pylu’n gyfan gwbl cyn y gall y driniaeth ddechrau.
-
Rydyn ni'n cadw'r hawl i godi tâl am unrhyw apwyntiad sydd wedi'i archebu ond wedi'i adael oherwydd lliw haul gweithredol neu liw haul ffug.
-
Caiff hanes meddygol ei gofnodi yn ystod yr ymgynghoriad, ond rydym yn dibynnu arnoch i roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i hyn. Mae angen i ni wybod am unrhyw feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd gan gynnwys y rhai a brynwyd gan fferyllydd neu feddyg llysieuol (herbalist).
-
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd mewn da bryd ar gyfer eich apwyntiad; bydd hyn yn caniatáu i ni oeri'r croen ymlaen llaw os bydd angen am hynny.
Cyngor ar ôl triniaeth
-
Er mwyn lleihau gwres y croen ac i leihau'r tebygolrwydd o adweithiau'r croen, gall ardal y driniaeth gael ei hoeri cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth. Os yw'r ardal yn dal i deimlo'n boeth gartref, gallwch ddefnyddio cadach oer neu becyn oer. Peidiwch â gadael i becynnau rhew na rhew ddod i gysylltiad uniongyrchol â'r croen.
-
Yn dilyn triniaeth, gall yr ardal ymddangos yn goch ac wedi chwyddo ac efallai y byddwch yn profi teimlad coslyd (tingling). Mae hyn yn hollol normal a dylai setlo dros y dyddiau nesaf.
-
O bryd i'w gilydd, efallai y byddwch chi'n cael profiad o chwyddo neu gleisio a gall hyn bara o 1-2 diwrnod hyd at 1-2 wythnos. Os ydych chi'n cael profiad o chwyddo, mae fel arfer yn waeth 1-2 ddiwrnod ar ôl y driniaeth. Os yw'n dilyn triniaeth i ardal wyneb, bydd cysgu gyda'ch pen wedi’i godi ar obenyddion yn lleihau ei edrychiad. Bydd pecynnau rhew hefyd yn helpu i leihau'r chwyddo. Os yw'ch croen yn arbennig o sensitif ac yn dueddol o adweithiau histamin, efallai y byddwch hefyd yn dymuno ystyried cymryd meddyginiaeth gwrth-histamin.
-
Yn dilyn triniaethau fasgwlaidd, gall cleisiau ymddangos yn ardal y driniaeth. Gall hyn bara hyd at 15 diwrnod ac wrth i'r cleisiau bylu mae'n bosibl y bydd afliwiad brown o'r croen. Mae hyn fel arfer yn pylu mewn 1-3 mis. Pan fydd gwythiennau mwy yn cael eu trin, gallant fod o liw tywyllach. Unwaith eto, gall hyn gymryd hyd at bedair wythnos i wella wrth i'r corff ail-amsugno'r gwythiennau sydd wedi'u difrodi.
-
Gellir defnyddio colur ar ôl rhai oriau, os nad yw'r croen yn ddolurus neu wedi torri. Fodd bynnag, rydym yn cynghori pwyll os yw'r ardal yn teimlo'n sensitif.
-
Tynnwch y colur yn ofalus gan fod rhwbio'r croen yn gallu achosi llid neu haint. Os yw'r croen yn ardal y driniaeth wedi torri, dylid osgoi defnyddio colur.
-
Dylid bod yn ofalus er mwyn osgoi trawma i ardal y driniaeth am 4 neu 5 diwrnod wedyn. Ceisiwch osgoi gweithgareddau egnïol, sawna a stêm, baddonau eithriadol o boeth, tylino ac ati.
-
Ymolchwch fel arfer ond cymerwch gawodydd claear yn hytrach na baddonau poeth. Dylai'r croen gael ei sychu’n ysgafn a pheidio â'i rwbio. Defnyddiwch Lynton Light Soothe Serum i leihau anniddigrwydd a chadw'r ardal yn llaith a gwarchod y croen. Os oes unrhyw anghysur, triniwch yr ardal fel y byddech yn trin llosg haul. Dim nofio am o leiaf 72 awr wedi’r driniaeth
-
Defnyddiwch eli haul (SPF 30+) a diogelu'r ardal rhag golau'r haul gymaint â phosib rhwng triniaethau ac am o leiaf un mis ar ôl i'r driniaeth ddod i ben. Gall methu â gwneud hyn arwain at losg haul a phigmentiad gormodol o ardal y driniaeth. (Mae'r rhan fwyaf o achosion o newidiadau mewn pigmentiad yn digwydd pan ddaw ardal y driniaeth i gysylltiad â golau'r haul, neu mewn pobl sydd â mathau tywyllach o groen).
-
Os bydd pothellu yn digwydd cysylltwch â'r clinig ar unwaith i gael cyngor pellach. Cadwch yr ardal yn lân ac yn sych a gadewch iddi wella'n naturiol. Peidiwch â defnyddio unrhyw hufenau neu eli ar groen agored gan y gallai hyn gynyddu'r risg o haint. PEIDIWCH â phigo doluriau na phothelli - gan y gallai hyn gynyddu'r siawns y bydd yn gadael craith. Ar ôl i'r croen wella, dylech ddefnyddio eli haul amddiffyn uchel yn ddyddiol am 12 mis er mwyn atal newidiadau pigmentiad yn y croen.