top of page
3AD1D6A1-CFF8-455E-982F-348DB9F52869_L0_001-10_29_2023, 1_28_50 PM.jpg

Tynnu Tatŵ

Yma yn Lois Lolfa, rydym yn cynnig triniaeth cael gwared o datŵ yn defnyddio laser - mae’r canlyniadau’n wych! Mae'r dechnoleg flaengar hon gan gwmni Asclepion yn gweithio trwy ganiatáu i'r golau a gynhyrchir gan y laser basio trwy'r croen a chwalu inc y tatŵ yn ronynnau man, a hynny heb losgi na niweidio haen uchaf y croen. Unwaith y bydd gronynnau pigment y tatŵ wedi'u malu, bydd y corff yn cael gwared ar y darnau man yn naturiol trwy’i system imiwnedd.

Mae sawl ffactor sy'n effeithio ar driniaethau tynnu neu bylu tatŵ â laser, er enghraifft maint, ansawdd, dwysedd a lliw'r tatŵ. Bydd pob un o’r ffactorau yma yn effeithio ar nifer y triniaethau sydd eu hangen i bylu neu gael gwared o’r tatŵ. Gall tatŵ amatur gael eu dileu yn eithaf cyflym, gan gymryd rhwng 3 ac 8 triniaeth, tra bod tatŵ proffesiynol yn amrywio'n sylweddol a gall rhai gymryd hyd at 15 o driniaethau. Mae angen gadael rhwng 6 a 10 wythnos rhwng pob sesiwn driniaeth.

SUT MAE LASER YN CAEL GWARED O DATŴ?

Mae Laserau Q-Switch yn cynhyrchu pelydryn pwerus o olau laser mewn pwls hynod o fyr a dyma'r laserau mwyaf addas ar gyfer triniaeth tynnu tatŵ. Mae pwls byr iawn o olau laser pŵer uchel yn cael ei amsugno gan ronynnau inc y tatŵ, gan eu torri i lawr yn ddarnau llai. Mae hyn yn galluogi eich amddiffynfeydd imiwnedd naturiol i amsugno a gwasgaru'r inc. Mae’r tatŵ’n pylu’n raddol dros gyfres o driniaethau.

SUT OLWG SYDD AR Y CROEN AR ÔL TRINIAETH?

Yn syth ar ôl triniaeth bydd y croen wedi gwynnu, ond mae hyn yn pylu'n gyflym ar y cyfan. Mae'r ardal yn debygol o deimlo'n dyner am ychydig oriau a gall fod yn goch ac wedi chwyddo am hyd at 48 awr.

A OES UNRHYW SGÎL-EFFEITHIAU?

Yn anaml iawn gall y croen ymddangos yn oleuach neu’n dywyllach, neu gall pothelli ffurfio.

SUT MAE'R DRINIAETH YN TEIMLO?

Mae'r rhan fwyaf o gleifion yn disgrifio'r teimlad fel pric pin poeth neu fand elastig yn cael ei fflicio yn erbyn y croen. Er ei fod yn anghyfforddus, mae'r rhan fwyaf o bobl yn gallu goddef triniaeth yn dda. Gellir defnyddio dyfais oeri croen i leihau unrhyw anghysur.

 

FAINT O DRINIAETHAU SYDD EU HANGEN?

Mae hyn yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys dwysedd a lliw’r inciau, ac oedran y tatŵ.

Gall cael gwared o datŵau amatur gymryd 3 i 8 triniaeth, tra bod tatŵau proffesiynol yn amrywio'n sylweddol a gall rhai gymryd hyd at 15 triniaeth. Bydd angen gadael rhwng 6 a 10 wythnos (neu fwy) rhwng pob triniaeth.

Peidiwch â chael eich dychryn gan bothelli. Gall pothelli ymddangos tua wyth awr ar ôl eich triniaeth tynnu tatŵ laser. Os yw pothelli yn rhan o'ch proses iacháu arferol, dim ond rhwng 4-6 diwrnod y byddant yn para.

Peidiwch â chael eich temtio i bigo’r grachen, y pothelli neu'r cramenau sy'n ffurfio ar ôl eich triniaeth tynnu tatŵ laser. Mae unrhyw greithio yn ganlyniad uniongyrchol i bigo’r croen ar yr adegau yma. Gadewch i'ch croen wella'n naturiol ac i'r grachen neu’r gramen ddisgyn i ffwrdd pan fydd yn barod. Gall plicio crachen nad yw’n barod i gael ei thynnu arwain at haint, creithio, neu hyd yn oed afliwiad ym mhigment eich croen.

bottom of page