top of page

illumiFacial® cam wrth gam

Mae illumiFacial® yn defnyddio cyfuniad newydd ac unigryw o ofal croen cwmni arbenigol Lynton ynghyd â thechnoleg Lynton IPL pwerus, gradd feddygol.

Mae’r driniaeth gyflym a syml yma yn gwella gwedd a thôn y croen gan roi’r edrychiad gorau phosib.

IllumiFacial Logo
Lynton logo
cleansing before laser treatment

Cam 1

Glanhau

Bydd y cam cyntaf o ran cyflawni croen clir, iach, disglair yn cynnwys glanhau dwfn, gyda’r ymarferydd ‘illumiFacial’ yn defnyddio fformwleiddiad arbennig i gael gwared ar unrhyw amhurdebau.

Cam 2

Croen Asid Tri-Ffrwyth

Yn dilyn glanhau dwfn, bydd Asid Tri-Ffrwyth unigryw Lynton Fruit Peel yn cael ei daenu ar eich croen am oddeutu 3 -10 munud. Mae'r croen hwn yn ail-wynebu gwead y croen ac yn llacio/clirio’r croendyllau, gan baratoi’r croen yn barod ar gyfer cam 3 yr ‘illumiFacial’.

tri-fruit acid peel
treatment ref spot with laser

Cam 3

Lynton IPL

Wedi'r asid ffrwythau, bydd eich croen yn ei gyflwr gorau posibl ar gyfer y driniaeth Lynton Intense Pulse Light (IPL) sydd wedi ennill amryw o wobrau. Mae hyn yn gweithio trwy ysgogi colagen a thargedu unrhyw afliwiadau ar eich croen, e.e. brychni, pigmentiad, ‘breakouts’ fasgwlaidd, cochni cyffredinol. Gan amlaf, mae'r canlyniadau i’w gweld ar unwaith, gan roi croen cadarnach a llawer cliriach i chi.

Cam 4

Hydradu ac Amddiffyn

Er mwyn helpu i wneud y mwyaf o ganlyniadau eich triniaeth ‘illumiFacial’, bydd triawd o serwm arbenigol yn cael ei roi ar eich croen ar ôl yr IPL, a fydd yn helpu i esmwytho, adfywio ac amddiffyn eich croen.

Lynton skincare range
bottom of page