top of page
huumsauna-sauna-9863851_1280.jpg
ffeinal infrared sauna logo (1).png

Sawna Isgoch

Croeso i'n sawna isgoch newydd sbon danlli! Ond be' ydio a pam ddylwn i archebu sesiwn?

Mae sawna isgoch yn defnyddio gwres isgoch tyner i gynhesu eich corff yn uniongyrchol, yn hytrach na chynhesu’r aer o’ch cwmpas. Mae hyn yn creu profiad cyfforddus ar dymheredd is, tra’n dal i annog chwysu helaeth a dadwenwyno sy’n gweithio o’r tu mewn allan.

Manteision o Sawna Isgoch

Ymlacio Dwfn a Lleihau Straen

Mae’r gwres isgoch yn tawelu’r system nerfol, gan helpu’r corff i symud i gyflwr o ymlacio dwfn. Mae llawer o bobl yn profi eglurder meddwl a thawelwch yn ystod sesiynau, gan ei wneud yn ddull effeithiol o leddfu straen a hyrwyddo llesiant cyffredinol.

Cefnogi

Dadwenwyno

Mae chwysu yn un o ffyrdd naturiol y corff o gael gwared ar rai tocsinau. Mae defnyddio sawna isgoch yn annog chwysu dwfn a helaeth, gan ei wneud yn rhan boblogaidd o raglenni llesiant a rhaglenni dadwenwyno.

 Gwell Ansawdd Cwsg

Gall y cyfuniad o wres tyner ac amser i ymlacio helpu i wella patrymau cysgu, yn enwedig pan drefnir y sesiynau’n gynnar gyda’r nos.

Adfer Cyhyrau ac Esmwytho Cymalau

Gall y gwres dwfn, treiddgar helpu i ymlacio cyhyrau tynn a gwella cylchrediad gwaed i fannau dolurus neu anystwyth. Gall hyn fod yn fuddiol iawn ar ôl ymarfer corff neu gyfnodau hir o ymdrech corfforol.​

Iechyd y

Croen

Gall chwysu’n rheolaidd helpu i lanhau’r mandyllau a hybu croen cliriach ac iachach ei olwg. Gall cylchrediad gwell gyfrannu hefyd at groen mwy gwridog a gloyw yn y pen draw.

 Gwell Cylchrediad Gwaed

Mae gwres isgoch yn codi cyfradd curiad y galon ac yn hybu cynnydd yn llif y gwaed, gan greu effeithiau tebyg i weithgarwch corfforol ysgafn. Gall gwell cylchrediad gefnogi iechyd cardiofasgwlar a helpu i gludo ocsigen a maetholion drwy’r corff yn effeithlon.

Cefnogi’r System Imiwnedd

Drwy godi tymheredd craidd y corff ychydig, gall sesiynau sawna isgoch efelychu ymateb y corff i dwymyn ysgafn a dros dro. Gall hyn helpu i ysgogi prosesau imiwnedd, a chefnogi amddiffynfeydd naturiol y corff.

Cofiwch...

Os ydych chi'n archebu sesiwn yn y Sawna Isgoch, cofiwch ddod â'r canlynol efo chi:

  • potel ddŵr

  • dillad nofio

  • 2 x tywel

Logo Lynton
HIW-logo.jpg
Unrhyw gwestiynau?
Cysylltwch!
Y Ffor, Pwllheli, Gwynedd LL53 6UE, UK
  • Grey Instagram Icon
  • Grey Facebook Icon

©LOLFA LOIS
©CLINIG CROEN

bottom of page