Beth ydy Colur (lled) Parhaol i’r gwefus?
Triniaeth ydy lliw gwefus cosmetig sy’n golygu mewnosod pigmentau o dan haen arwyneb croen eich gwefusau. Gellir ei wneud mewn sawl arddull, o finlliw parhaol di-draidd, leiner gwefus parhaol sy’n perffeithio’r siâp, i’r fflach o liw trwy gochi gwefusau a gwefusau dyfrlliw.
Gall hefyd oleuo’r gwefusau tywyll a rhoi lliw cynhesach iddyn nhw, a hyd yn oed cuddio creithiau.
Mae’r lliw gwefus lled-barhaol yn pylu’n raddol ac mae angen twtio yn achlysurol i’w gadw’n ffres.
Sut mae'r driniaeth lliw gwefus yn edrych?
Proses ficro pigmentiad yw’r driniaeth gwefusau PMU. Tatŵ cosmetig yw’r enw arall arni sy’n golygu bod nodwydd electronig yn cael ei defnyddio i fewnosod pigment o dan groen eich gwefusau.
Alla i gael y driniaeth ar yr un diwrnod â'r ymgynghoriad?
Rhaid i chi fy ngweld i (Lois) fydd yn gwneud y driniaeth ymlaen llaw i drafod beth yn union rydych chi ei eisiau ac asesu eich gwefusau. Bydd angen i chi roi gwybodaeth am unrhyw gyflyrau all fod gennych a gadael imi benderfynu a ydy hi’n ddiogel i chi gael y driniaeth. Dylech hefyd gael prawf croen a fydd yn dangos unrhyw alergeddau tebygol i bigmentau.
Oes angen i mi gael prawf croen cyn cael apwyntiad?
Gall prawf croen a wneir wythnos cyn y driniaeth ddangos alergeddau i’r pigment. Fodd bynnag, mae yna enghreifftiau prin o adwaith alergaidd gohiriedig sydd wedi digwydd flynyddoedd ar ôl y driniaeth. Does dim sicrwydd na fydd client yn adweithio rywbryd yn y dyfodol.
Sut i ddewis lliw gwefus parhaol
Gellir gwneud y lliw gwefus parhaol mewn unrhyw raddliw o goch, pinc neu oren, ond gan fod y canlyniadau yn gallu para hyd at bum mlynedd, mae angen bod yn siŵr bydd y client yn dymuno gwisgo’r lliw am yr holl amser yna. Dyna pam mae’r rhan fwyaf o gleientau yn mynd am y graddliwiau ysgafn (subtle), lliw-croen sy’n addas ar gyfer unrhyw achlysur ac yn siwtio unrhyw golur (makeup look).
Alla i gael tatŵ/Lip Blush os oes gen i lenwyddion gwefus (lip fillers)?
Gallwch, gellir cyfuno gwefusau PMU efo llenwyddion gwefus, ond mae’n well cael tatŵ gwefus gyntaf, gan ei fod yn para’n hirach na llenwyddion. Ond os oes gennych lenwyddion eisoes, arhoswch ychydig cyn trefnu apwyntiad ar gyfer gwefusau PMU - mae’n cymryd tua 6 wythnos i’r llenwyddion setlo. Dylech fod yn ymwybodol, serch hynny, y gall eich llenwyddion symud oherwydd trawma'r driniaeth tatŵio.
Ydy'r driniaeth gwefusau PMU yn boenus?
Bydd ardal y gwefusau yn sensitif a gall y syniad o gael nodwydd yn mynd i mewn i’ch gwefusau lawer gwaith godi ofn. Fodd bynnag, defnyddir eli fferru os bydd angen i ddileu’r boen. Mae’r rhan fwyaf o gleientau yn dweud ei fod yn anghyfforddus, ond nid yn boenus.
Beth sy'n effeithio ar barhad y Lip Blush?
-
Y math o groen - Y prif ffactor sy’n effeithio ar ba mor hir y bydd eich tatŵ gwefus yn para yw’r math ogroen sydd gennych. Bydd angen i bobl â chroen olewog gael twtiadau yn aml i gynnal y lliw gan fod y sebwm dros ben sy’n cael ei dynnu o’r mandyllau o gwmpas y gwefusau yn gwthio’r pigment allan.
-
Eich bywyd bob dydd – Mae’ch bywyd bob dydd yn chwarae rhan bwysig hefyd. Os ydych yn ymwneud â rhyw weithgaredd chwaraeon sy’n gwneud i chi chwysu neu yn nofio llawer, mae’n fwy tebygol y bydd eich gwefusau tatŵ yn dechrau colli eu lliw yn gyflymach. Mae’r un peth yn wir am smygu.
-
Yng ngwres yr haul - Gall yr haul gyflymu pyliad pigmentau PMU.
-
Cynhyrchion Gofal Croen: Gall rhai cynhwysion gofal croen achosi i’r PMU bylu yn gyflymach , yn arbennig Retinol ac asidau.
-
Os ydych yn cael twtiadau yn aml bydd y lliw gwefus parhaol yn para yn hirach.
Pwy sy'n ymgeisydd da ar gyfer Tatŵ gwefus?
Unrhyw un sy’n hoffi gwisgo minlliw ond sydd ddim yn hoffi mynd i’r drafferth o’i dwtio sawl gwaith y dydd. Hefyd merched sy’n hoffi ychwanegu rhywfaint o lawnder (volume) i’w gwefusau.
Fydd y lip blush ddim yn gwneud cymaint â’r llenwyddion gwefusau, ond bydd yn gwneud i’r gwefusau edrych yn fwy llawn.
Mae minlliw parhaol yn ardderchog ar gyfer gwefusau anwastad. Bydd yn cuddio unrhyw amherffeithrwydd siâp ac yn gwneud y gwefusau yn fwy cymesur.
Cofiwch adolygu’r rhestr cyn trefnu apwyntiad.
Dydy cael gwefusau PMU ddim yn ddiogel i chi os ydych:
Dydy cael gwefusau PMU ddim yn ddiogel i chi os ydych
-
O dan 18 oed
-
Yn feichiog neu’n nyrsio
-
Yn cael cemotherapi
-
Os oes gennych haemoffilia
-
Os oes gennych broblemau difrifol gyda’r galon neu reoliadur calon
-
Os ydych wedi cael trawsblaniad
-
Os oes gennych bwysedd gwaed nad yw’n cael ei reoli
-
Os oes gennych ddiabetes (cysylltwch â’ch meddyg, os yw’n bosibl)
-
Os oes gennych psoriasis, ecsema, rosacea, neu gyflwr arall ar y croen yn ardal y gwefusau
-
Os oes gennych unrhyw haint awtoimiwnedd (cysylltwch â’ch meddyg, os yw’n bosibl)
-
Os oes gennych anemia (efallai na fydd y pigment yn cael ei gadw yn iawn)
-
Os oes gennych hanes o greithio celoid neu greithio hypertrophig
-
Hanes o ddoluriau annwyd parhaus
-
Yn cymryd Accutane neu steroid
Nodwch: Os ydych wedi cael doluriau annwyd neu herpes ar y gwefusau erioed, bydd angen i chi gymryd meddyginiaethau gwrthfeirol yn ystod y cyfnod yn arwain at gael eich triniaeth tatŵ gwefus. Rhaid i’r rhain gael eu rhagnodi gan eich meddyg teulu. Y paratoad mwyaf cyffredin ydy Zovirax neu Valtrex am tua 2 wythnos. Fel arall, bydd y tatwio yn gwneud i’r herpes ymledu.
Gall paratoi’n briodol ar gyfer y driniaeth leihau sensitifedd a lleihau unrhyw gosi poenus.