

Amlinellwr Llygaid
Er mor wych ac on-point gall amlinellwr llygaid (eyeliner) fod, gall hefyd fod yn elyn gwaethaf ar foreau prysur.
Dyna pam mae cymaint o bobl yn caru eyeliner (lled) barhaol, ateb hir dymor ar gyfer yr edrychiad “smudge-proof eyeliner”. Gan fod canlyniadau'r driniaeth colur barhaol hon yn para rhwng 1 a 5 mlynedd, mae'n bwysig cael y linell naturiol perffaith i weddu siâp eich llygaid.
Triniaethau Amlinellwr Llygaid Parhaol
Y llygaid yw drych yr enaid a diolch i'r technegau colur (lled) barhaol diweddaraf gallwn bwysleisio ac uwcholeuo ein harddwch naturiol a gwella amlinell y llygaid yn weledol.
Beth yw'r driniaeth?
Triniaeth gosmetig lled-barhaol sy'n creu amrannau llawn a thywyllach ydi'r driniaeth a gynigir yma yn Lolfa Lois, trwy osod pigment ar hyd y llinell amrannau.
Alla i gael y driniaeth ar yr un diwrnod â'r ymgynghoriad?
Mae eyeliner neu amlinellwr llygaid yn fframio y llygaid a gall wneud i amrannau ymddangos yn dywyllach neu'n fwy trwchus. Gall wella siâp neu gydbwysedd (cymesuredd) llygaid person, creu llygaid mwy yr olwg, neu effeithio ar sut mae gofod rhwng y llygaid yn cael ei weld. Gall eyeliner hefyd wella neu ddwysáu lliw llygaid a gwneud llygaid ymddangos yn fwy deniadol.
Mae'n dileu'r angen i amlinellu amrannau gyda leininau hylif neu bensiliau ac yn gwella ymddangosiad amrannau sy ar goll, tenau neu liw golau. Mae eyeliner parhaol yn caniatáu i bobl nofio, cael cawod neu ymarfer corff heb gael colur blêr. Mae'n darparu diogelwch a chyfleustra i bobl sydd â chroen olewog, problemau golwg, neu ddwylo ansefydlog. Mae meddygon llygaid (Offthalmolegwyr ac Optometryddion) hefyd yn argymell eyeliner parhaol i gleifion sy'n gwisgo lensys cyffwrdd, sydd â llygaid dyfrllyd, neu sydd ag alergedd i golur rheolaidd.
Ydio'n boenus?
Cofiwch fod pob unigolyn yn profi poen ar lefelau gwahanol. Bydd hufen fferru yn cael ei ddefnyddio yn ystod y driniaeth os bydd angen.
Pwy sy'n addas i dderbyn y driniaeth?
Er ei fod yn addas i lawer o gleientiaid, mae rhestr o ofynion cleientiaid y mae'n rhaid i ei darllen a bod yn gymwys ar ei gyfer cyn bwcio ymgynghoriad . Mae ‘rhestr isod yn datgan pwy sy’n gymwys ar gyfer y driniaeth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ei ddarllen yn ofalus a chofiwch gysylltu os ydych chi angen gofyn unrhyw gwestiwn ynglŷn ’r rhestr.
Oes angen dod mwy nag unwaith am driniaeth?
Ar ôl i chi dderbyn eich apwyntiad cychwynnol, bydd yr apwyntiad nesaf rhwng 6 – 10 wythnos.
Dydy cael amlinellwr llygaid parhaol ‘eyeliner’PMU ddim yn ddiogel i chi os ydych:
Dydy cael amlinellwr llygaid parhaol ‘eyeliner’PMU ddim yn ddiogel i chi os ydych
-
O dan 18 oed
-
Yn feichiog neu’n nyrsio
-
Unrhyw un sydd â chanser a/neu sy'n cael cemotherapi a radiotherapi.
-
Os oes gennych haemoffilia
-
Os oes gennych lygaid dyfrllyd ofnadwy
-
Os oes gennych broblemau difrifol gyda’r galon neu reoliadur calon
-
Os ydych wedi cael trawsblaniad
-
Os oes gennych bwysedd gwaed nad yw’n cael ei reoli
-
Os oes gennych ddiabetes (cysylltwch â’ch meddyg, os yw’n bosibl)
-
Os oes gennych psoriasis, ecsema, rosacea, neu gyflwr arall ar y croen yn ardal y lygaid
-
Os oes gennych unrhyw haint awtoimiwnedd (cysylltwch â’ch meddyg, os yw’n bosibl)
-
Os oes gennych anemia (efallai na fydd y pigment yn cael ei gadw yn iawn)
-
Os oes gennych hanes o greithio celoid neu greithio hypertrophig
-
Yn cymryd Accutane neu steroid
-
Gydag unrhyw un alergedd i anesthesia pigmentiad a cholur.
-
Gydag unrhyw un sydd â glawcoma a/neu sy'n cymryd meddyginiaeth teneuo gwaed.
-
Gydag un sy'n cymryd meddyginiaethau steroid (h.y. Accutane).
-
Gydag un sydd â chlefydau gwaed trosglwyddadwy